Mynediad
Archebwch eich tocynnau ymlaen llaw a rhowch wybod i aelod o staff am unrhyw anghenion arbennig sydd gyda chi – rydyn ni'n barod i'ch helpu chi ac i gynnig cyngor. Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu gwestiynau, neu os hoffech chi ragor o wybodaeth neu roi gwybod i’r ganolfan am unrhyw anghenion arbennig, ffoniwch ar unwaith.
- Mae'r Colisëwm yn hen adeilad ac rydyn ni'n ceisio gwella mynediad ar gyfer pobl anabl drwy'r amser.
- Ramp i'r cyntedd ar y tu blaen i'r adeilad, gyda drysau ffrynt awtomatig.
- Ramp o'r maes parcio y tu blaen i'r adeilad neu i'r drws sydd ar yr ochr.
- 3 lle parcio ar gyfer yr anabl.
- Lifft o'r corau i'r bar.
- Cyfleusterau tai bach sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.
- 10 lle cadw ar gyfer cadeiriau olwyn ymhlith y corau blaen. Mae seddau cymar, nesaf wrth y rhain yn rhad ac am ddim - rhowch wybod i'r Swyddfa Docynnau pan fyddwch chi'n archebu eich tocynnau.
- Mae croeso i gŵn tywys ymhob rhan o'r adeilad.
- Mae dolen sain ar gael yn y brif neuadd.
- Gwifren Minicom ar gyfer y rhai sy'n drwm eu clyw - (01685) 83769.
- Ardal wastad o amgylch y corau.
- Mae dolen sain ar gael yn ardal y corau yn y brif neuadd. Trowch eich cymorth clyw i safle 'T’' i'w defnyddio.
- Perfformiadau ag iaith arwyddion o bryd i'w gilydd.
- Llyfryn y tymor a llyfryn Taro'r Nodyn Cywir/Where Good Music Matters ar gael mewn print bras - anfonwch neges e-bost i neu ffonio 01685 888686 i ychwanegu'ch enw at ein rhestr e-bost ar gyfer llyfrynnau mewn print bras.